Dros lais Sosialaidd yn y Senedd
dros Gaerdydd Ffynnon Taf
Pam pleidleisio ✘ Undebwyr Llafur a Sosialwyr Cymru?
Welsh Trade Unionist and Socialist Coalition
Mae aelodau’r Blaid Sosialaidd yn helpu’r ymgyrch a streic gan ymwelwyr iechyd yng Nghymru i gael cyflog teg ar y band cyflog cywir sy’n cyd-fynd a’i sgiliau.
Mae ymwelwyr iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn amddiffyn iechyd babanod newydd-anedig a’u rhieni. Ond maen nhw ar y band cyflog anghywir o ystyried eu sgiliau.
Mae gwleidyddion Llafur yn siarad llawer am gyflogau cyfartal ond mae gwastad yn gyflog cyfartal I LAWR i’r band cyflog isaf. Ac maen nhw’n gwrthod hyd yn oed cwrdd â’r ymwelwyr iechyd i drafod cyflogau teg.
Rydyn ni’n cefnogi dod â chyflogau’r ymwelwyr iechyd I FYNY i’r band cyflog cywir a thalu’r cyflog maen nhw’n ei haeddu.
Mae’r Blaid Sosialaidd yn sefyll yn yr etholiad hwn fel rhan o’r Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr (TUSC).
Ni yw’r rhai sy’n arwain trwy uno’n gweithleoedd a chymunedau i ymgyrchu i gael yr hawliau a’r adnoddau sydd angen – i danseilio hiliaeth, bai a rhaniad.
Rydyn ni’n gwrthod derbyn bod rhaid i bobl dosbarth gweithiol, ein GIG a gwasanaethau cyhoeddus talu I ddatrys problemau’r hynod gyfoethog.
Rydyn ni’n ymgyrchu i gael yr undebau llafur – fel sefydliadau democrataidd sy’n cael eu harwain gan eu haelodau ac yn cynrychioli gweithwyr a chymunedau – I wahanu oddi wrth Lafur ac i adeiladu plaid newydd y dosbarth gweithiol.
Nid oes dewis arall ar y papur pleidleisio sy’n addo pleidleisio yn erbyn yr holl doriadau i’n GIG a’n gwasanaethau cyhoeddus.
Mae John Williams yn weithiwr lletygarwch, ymgyrchydd LGBT+, ac yn gadeirydd Cangen Gyffredinol Caerdydd o’r undeb Unite.
Mae Helen Perriam yn nyrs ac yn aelod o’r undeb Unsain, sydd wedi gweld yn uniongyrchol beth mae toriadau a phreifateiddio Llafur a’r Torïaid wedi gwneud i’n GIG.
Mae Dave Bartlett yn ysgrifennydd Cyngor Undebau Llafur Caerdydd ac wedi arwain ymgyrch llwyddiannus I achub cyfleusterau iechyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Pleidleisiwch Undebwyr Llafur a Sosialwyr Cymru.
Welsh Trade Unionist and Socialist Coalition
Promoted by / hyrwyddwyd gan Dave Warren for the / ar gyfer Welsh Trade Unionist and Socialist Coalition / Clymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr Cymru, both at / y ddau yn: 29 Tir Y Farchnad, Gowerton / Tregŵyr, Swansea / Abertawe, SA4 3GS.
We respect your privacy. This site does not use any persistent cookies or tracking scripts. Our website hosting provider (Microsoft) collects standard network logs for security and load-balancing purposes.