Dros lais Sosialaidd yn y Senedd i
Gŵyr Abertawe
Pam pleidleisio ✘ Undebwyr Llafur a Sosialwyr Cymru?
Welsh Trade Unionist and Socialist Coalition
Aelodau’r Blaid Sosialaidd yn sefyll fel TUSC oedd y rhai i siarad yn Siambr y Cyngor yn Abertawe yn ddiweddar i wrthwynebu toriadau Llafur a chodiadau yn Nhreth y Cyngor – tra roedd eraill ond yn ymatal rhag pleidleisio.
Hefyd rydyn ni wedi cefnogi’r protest mawr y gymuned leol yn erbyn cynlluniau’r Cyngor i roi £8 miliwn o gefnogaeth gyhoeddus i brosiect gwagedd Skyline sydd i gael ei adeiladu yng ngwarchodfa natur Kilvey Hill. Hynny ydy prosiect gwagedd sy’n niweidiol i’r amgylchedd.
Mae’r Blaid Sosialaidd yn sefyll yn yr etholiad hwn fel rhan o’r Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr (TUSC).
Ni yw’r rhai sy’n arwain trwy uno’n gweithleoedd a chymunedau i ymgyrchu i gael yr hawliau a’r adnoddau sydd angen – i danseilio hiliaeth, bai a rhaniad.
Rydyn ni’n gwrthod derbyn bod rhaid i bobl dosbarth gweithiol, ein GIG a gwasanaethau cyhoeddus talu i ddatrys problemau’r hynod gyfoethog.
Rydyn ni’n ymgyrchu i gael yr undebau llafur – fel sefydliadau democrataidd sy’n cael eu harwain gan eu haelodau ac yn cynrychioli gweithwyr a chymunedau – i wahanu oddi wrth Lafur ac i adeiladu plaid newydd y dosbarth gweithiol.
Nid oes dewis arall ar y papur pleidleisio sy’n cefnogi polisïau’r 400,000 aelodau undeb yng Nghymru. Polisïau sydd wedi cael eu penderfynu’n ddemocrataidd megis yr alwad i ddarparu cyllidebau heb doriadau.
Pwy drechodd cynlluniau Llywodraeth Lafur y DU i dorri budd-daliadau anabledd y llynedd? Trechu sylweddol er yn rhannol a dim ond dros dro.
Yn sicr, nid yr Aelodau’r Senedd i Lafur Cymru a bleidleisiodd o blaid y toriadau, na’r Prif Weinidog a ddywedodd “mae hynny i fyny iddyn nhw.”
Ac nid Reform UK na’r Torïaid – mae’r ddau ohonyn nhw yn credu nad yw’r toriadau anabledd yn ddigon. Pobl anabl, undebwyr llafur, a sosialwyr – pobl fel ymgeiswyr TUSC Cymru - a wnaeth hynny.
Nhw oedd yr wrthblaid go iawn i Lafur yn San Steffan a Chaerdydd.
Etholwch yr ymladdwyr hynny i’r Senedd at 7 Mai – pleidleisiwch ✘ Undebwyr Llafur a Sosialwyr Cymru.
Ben Golightly yw un o gydlynwyr etholiadol Pobl Anabl yn Erbyn y Toriadau Cymru (DPAC Cymru), ymgyrch proffil uchel yn brwydro yn erbyn toriadau anabledd, ac yn aelod o’r undeb Prospect.
Mae Mark Evans yn undebwr llafur Unsain hirhoedlog ac yn Ysgrifennydd Cyngor Undebau Llafur Abertawe a’r Cylch. Mae Mark wedi bod yn ymgyrchydd cyson yn erbyn torri swyddi llywodraeth leol, cynnydd yn Nhreth y Cyngor, a thoriadau i wasanaethau.
Pleidleisiwch Undebwyr Llafur a Sosialwyr Cymru.
Welsh Trade Unionist and Socialist Coalition
Promoted by / hyrwyddwyd gan Dave Warren for the / ar gyfer Welsh Trade Unionist and Socialist Coalition / Clymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr Cymru, both at / y ddau yn: 29 Tir Y Farchnad, Gowerton / Tregŵyr, Swansea / Abertawe, SA4 3GS.
We respect your privacy. This site does not use any persistent cookies or tracking scripts. Our website hosting provider (Microsoft) collects standard network logs for security and load-balancing purposes.